Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (78)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Y dystiolaeth sy’n tanategu’r achos dros ad-drefnu’r GIG yng Nghymru. (30 munud |
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Cyflwyno Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (60 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2011 (30 munud) |
6. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: y wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Gymdeithasol (30 munud) |
7. Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012 (15 munud) NDM5032 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2012. Dogfennau Ategol |
8. Dadl ar Rifedd (60 munud) NDM5031 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) bod rhifedd yn sgil hanfodol; b) bod angen codi safonau rhifedd ar fyrder gydag ymrwymiad gan bob sector yn y byd addysg i gyflawni’r amcan hwn; c) bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Rhaglen Rhifedd Genedlaethol i godi’n sylweddol lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd er mwyn cynorthwyo’r sector addysg a dysgwyr i godi safonau rhifedd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: bod Cymru, o dan asesiad PISA 2009, yn 40fed o blith 67 o wledydd ym maes mathemateg. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu is-bwynt b), a rhoi yn ei le ‘bod angen ymateb ar fyrder i’r hen broblem o safonau rhifedd yng Nghymru, nad yw Gweinidogion addysg blaenorol wedi mynd i’r afael â hi, er mwyn codi safonau rhifedd gydag ymrwymiad gan bob sector yn y byd addysg i gyflawni'r amcan hwn’. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Yn is-bwynt b), ar ôl 'gydag ymrwymiad gan' ychwanegu 'Lywodraeth Cymru a phob'. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: y gydberthynas sy’n parhau rhwng amddifadedd a'r lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd. Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod safonau rhifedd wedi dirywio, ar ôl deuddeg mlynedd ddi-dor o Weinidogion addysg Llafur mewn grym. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y rôl allweddol y gall rhieni a gwarcheidwaid ei chwarae wrth weithio gyda’r sector addysg i wella safonau rhifedd ymysg plant a phobl ifanc Cymru. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth fethiant Llywodraethau olynol Cymru i godi safonau rhifedd yng Nghymru yn ddigonol. Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod safbwynt Llywodraeth Cymru ei bod yn afrealistig disgwyl gwelliannau sylweddol ym mherfformiad Cymru yn yr asesiadau nesaf gan PISA, yn awgrymu nad ydynt ar frys i wella safonau rhifedd yng Nghymru. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Gweinidog i bennu targedau clir ar gyfer gwelliannau mewn mathemateg yng nghanlyniadau PISA 2012. Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r buddsoddiad a ddarparwyd gan y grant amddifadedd disgyblion, a fydd yn helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion. Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu’r grant amddifadedd disgyblion yn ei flwyddyn ganlynol er mwyn parhau i helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion.
|
Cyfnod Pleidleisio
|
9. Dadl Fer a ohiriwyd ers 27 Mehefin 2012 (30 munud) NDM5024 Leanne Wood (Canol De Cymru): Arafu’r traffig i sicrhau diogelwch ein plant ysgol |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2012